Bil Addysg (Cymru)

 

Mis Medi 2013

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Tystiolaeth UCAC ar Bil Addysg (Cymru)

Croesawa Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) y cyfle hwn i ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg (Cymru).

Mae UCAC yn undeb llafur sy’n cynrychioli 5,000 o athrawon, arweinwyr ysgol a darlithwyr addysg bellach ac addysg uwch ym mhob rhan o Gymru.

Rhan 2: Y Gweithlu Addysg

Egwyddorion Cyffredinol

Cytuna UCAC ag egwyddorion cyffredinol Rhan 2 y Bil. Yn benodol, rydym yn gefnogol i fwriad y Bil i ymestyn cwmpas y Cyngor Addysgu Cyffredinol i gynnwys y gweithlu addysg ehangach, ac rydym wedi ein darbwyllo erbyn hyn ynghylch priodoldeb cynnwys staff cymorth dysgu.

Fodd bynnag, byddem yn dadlau y dylai cwmpas y Cyngor newydd gael ei ymestyn i gynnwys athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol. Dylai disgyblion mewn ysgolion o’r fath fod â’r hawl i gael athrawon sy’n ymgyrraedd at yr un safonau addysgu ac ymddygiad â’u cymheiriaid mewn ysgolion a gynhelir a cholegau addysg bellach. Dylai addysgwyr disgyblion oedran addysg gorfodol oll fod yn ddarostyngedig i’r un gyfundrefn.

Mae gweithwyr ieuenctid yn parhau i gael eu crybwyll yn y Memorandwm Esboniadol fel categori i’w cwmpasu at y dyfodol. Er nad yw gweithwyr ieuenctid  yn cael eu crybwyll ar wyneb y Bil, teimlwn ei fod yn briodol nodi ein pryderon ynghylch unrhyw fwriad i’w cynnwys yn y dyfodol (i) am nad ydynt yn rhan o’r gweithlu addysg fel y cyfryw (ii) am na fydd yn hawdd cael diffiniad o bwy yn union sy’n weithiwr ieuenctid, gymaint yw natur amrywiol eu gweithleoedd, telerau a chymwysterau.

Cefnogwn y bwriad i gwmpasu tiwtoriaid dysgu seiliedig ar waith a staff cymorth dysgu yn y dyfodol.

Gwrthwynebwn y bwriad i ganiatáu i Weinidogion Cymru lunio’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer, ac i benodi aelodau’r Cyngor. Manylwn ar hynny isod.

Sylwadau manwl

Cymal 2: Cyngor y Gweithlu Addysg
Cytunwn â’r bwriad i barhau â’r corff presennol ac i newid yr enw i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Cymal 3: Nodau’r Cyngor
Nid ydym yn anghydweld â nodau’r Cyngor; maent yn gwbl gymeradwy.

Fodd bynnag, mae gweddill y Bil a’r ddarpariaeth ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol yn ymwneud â nôd (b) yn unig, sef cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol.

Os yw’r Cyngor ar ei newydd wedd i gael unrhyw obaith o wireddu nôd (a), sef cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu, ac os yw’r nôd hwnnw i gael unrhyw hygrededd ymhlith y gweithlu, rhaid gwneud darpariaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol - rhywbeth sy’n gwbl absennol o’r Bil.

Mi fydd yn gwbl angenrheidiol i lwyddiant y Cyngor newydd fod ganddo hygrededd ymhlith y gweithlu cofrestredig; mae hanes yr Institute for Learning (IFL) yn Lloegr yn cynnig gwersi clir ar y mater hwn. Os bydd y Cyngor yn gweithredu fel corff disgyblu a chosbi yn unig, heb y gallu i gynnig cefnogaeth a datblygiad proffesiynol, ni fydd yn mynnu parch y proffesiwn; gellid dadlau bod hyn wedi bod yn broblem i’r Cyngor Addysgu presennol ers iddo golli’r cyfrifoldeb i weinyddu cronfeydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Pwysig yw nodi’r cysylltiad rhwng hygrededd a pharch at y corff ar y naill law, a’r parodrwydd i dalu ffioedd ar y llall.

Cymal 4: Swyddogaethau’r Cyngor
Fel uchod, mae absenoldeb unrhyw gyfeiriad at ddatblygiad proffesiynol yn drawiadol iawn fan hyn, ac yn destun pryder i UCAC.

Croesawn yn arbennig swyddogaeth (b), sef gweithgareddau i hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy, a’r ffaith y bydd y swyddogaeth hon yn cael ei hysgwyddo gan gorff Cymreig sy’n deall anghenion a chyd-destun Cymru. Pryderwn, fodd bynnag, ynghylch cyn lleied yw’r gyllideb a fwriedir ar gyfer y swyddogaeth hon, sef £100,000 yn unig (Memorandwm Esboniadol, paragraff 303).

Cymal 7: Darparu cyngor gan y Cyngor
7(2)(a): Nid ydym yn glir beth yw ystyr na bwriad y cymal hwn. Pa fath o gyngor y rhagwelir y gellid ei ddarparu ar y mater hwn?

7(4), 7(5) a 7(7): Gwrthwynebwn y darpariaethau hyn; mae UCAC o’r farn y dylid ymddiried yn noethineb y Cyngor ynghylch pryd ac i bwy i ddarparu cyngor, ac mae’r cymalau hyn yn awgrymu naill ai diffyg ymddiriedaeth neu ddeisyfiad o reolaeth tu hwnt i’r hyn sy’n addas dros gorff annibynnol. Yn ogystal, bydd y darpariaethau hyn yn achosi gwaith gweinyddol anghymesur i staff y Cyngor a staff y Llywodraeth fel ei gilydd.

Cymal 11: Apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru
11(1): Er ein bod yn cydnabod bod y cymal hwn yn adlewyrchu’r trefniadau cyfredol, teimlwn y byddai’n briodol bod hawl i wneud apêl yn erbyn penderfyniad ynghylch cofrestru i banel apêl o fewn y Cyngor yn gyntaf, cyn gorfod mynd i’r Uchel Lys. Byddai hyn yn adlewyrchu’r trefniadau sy’n bodoli yng nghyd-destun apeliadau ynghylch penderfyniadau Sefydlu.

Cymal 12: Ffioedd cofrestru
12(1): Nodwn yr wybodaeth a’r ystyriaeth fanwl yn yr atodlen i’r Memorandwm Esboniadol, a’r bwriad i ymgynghori ynghylch y drefn ffioedd maes o law, felly ni ymhelaethwn ar y pwnc fan hyn.

Fodd bynnag, teimlwn fod yn rhaid i ni wneud un sylw. Yng nghyd-destun y bwriad i’r Cyngor fod yn ariannol hunangynhaliol, tynnwn sylw’r Pwyllgor at y ffigyrau difrifol o uchel a nodir ym mharagraff 307 o’r Memorandwm Esboniadol mewn perthynas â chostau gwrandawiadau. Deallwn fod costau cyfreithiol ynghlwm wrth achosion o’r fath, ond rydym yn gadarn iawn o’r farn y gellid (ac y dylid) lleihau ar y costau hyn. Os bydd nifer yr achosion yn dyblu yn sgil dyblu nifer yr unigolion a gofrestrir, ni fydd y lefelau hyn o wariant yn gynaliadwy. Gofynnwn, yn ogystal, a ragwelir y bydd staff a swyddfeydd presennol y Cyngor yn ddigonol, neu a fydd angen ymestyn?

12(2)(b): Mae UCAC o’r farn y gellid nodi ar wyneb y Bil pwy fydd yn penderfynu ar y ffioedd cofrestru, ac nad oes angen i hynny gael ei neilltuo i reoliadau. Ni fyddem yn rhagweld yr angen i newid y drefn benodedig – i’r gwrthwyneb, byddai sefydlu’r egwyddor mewn deddfwriaeth yn rhoi sicrwydd a chadernid.  Byddem o blaid trefn ble fyddai’r Cyngor yn gwneud argymhellion ar sail achos busnes, a Gweinidogion Cymru’n gwneud penderfyniad terfynol. 

Cymal 23: Gwerthuso personau cofrestredig
23(5) Mae’r cymal hwn yn destun pryder. Os ydyw’n cyfeirio at bwerau sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â thâl athrawon (yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol), mi fyddai hynny’n dderbyniol. Mae trefniadau’n bodoli yn ogystal sy’n caniatáu i werthusiad o waith darlithydd addysg bellach, gael ei ddefnyddio i benderfynu ar dâl (sef trefniadau ar gyfer “croesi’r trothwy” o’r brif raddfa i’r uwch raddfa).

Fodd bynnag, byddai UCAC yn gwrthwynebu’n llwyr unrhyw ymestyniad o ran tâl yn ôl perfformiad ar gyfer athrawon, darlithwyr, ac unrhyw garfan arall o’r gweithlu addysg. Pryderwn fod y cymal dan sylw, a’r diffyg trafodaeth yn y Memorandwm Esboniadol, yn gadael y posibilrwydd hwnnw ar agor – er yn ddarostyngedig i ymgynghoriad ar reoliadau.

Barn gadarn UCAC yw nad yw’n bosib sefydlu system tâl yn ôl perfformiad teg a thryloyw i athrawon oherwydd natur y swydd. Atgoffwn y pwyllgor o safbwynt y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews:

“I have grave concerns over introducing a system whereby a teacher’s potential pay rise is based upon their perceived performance compared with other teachers in the same school. This could lead to dissatisfaction and a reduction in cooperation between colleagues, as well as introducing unnecessary new problems for head teachers… I consider it essential to recruit the highest possible calibre of entrant into the teaching profession in Wales. Those who decide to enter and remain in the teaching profession in preference to other occupations are unlikely to do so based only on relative pay. However, I suspect that this will not be helped by the removal of pay spine points with pay rises based purely on annual performance relative to other teachers within the same school.”

 

Dyfyniad o lythyr Leighton Andrews (MB LA 0788 12)
at Gadeirydd y School Teachers’ Review Body, 20 Chwefror 2013

Cymal 24: Cod ymddygiad ac ymarfer
24(1): Gwrthwynebwn yn chwyrn y cymal hwn sy’n rhoi’r cyfrifoldeb o lunio Cod Ymddygiad ac Ymarfer i Weinidogion Cymru. Y Cyngor Addysgu sydd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn yn y gorffennol, ac ni allwn weld unrhyw ddadl dros drosglwyddo’r cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru nawr. Y Cyngor fydd yn cynrychioli’r gweithlu addysg ac yn gweithredu ar ei ran; nhw fydd â’r arbenigedd, y profiad a’r hygrededd ymhlith eu cymheiriaid fydd yn angenrheidiol ar gyfer ymgymryd â’r swyddogaeth hon.

Cymal 26: Swyddogaethau disgyblu
26(1): Mae gan UCAC brofiad hir o weithio ar faterion disgyblu, gan gynnwys yng nghyd-destun ymchwiliadau a gwrandawiadau gerbron y Cyngor Addysgu. Mae gennym bryder ynghylch amwysedd yng ngeiriad y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyfredol – pryder sy’n parhau yng nghyd-destun y Bil Addysg.

Mae gan ysgolion, a chyrff llywodraethu yn benodol, ddyletswydd i ddelio gyda materion disgyblu o fewn eu cyfundrefnau eu hunain. Yn wir, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd yn y maes hwn ym mis Ionawr eleni (Gweithdrefnau disgyblu a diswyddo staff ysgol - canllawiau diwygiedig i gyrff llywodraethu; Cylchlythyr Llywodraeth Cymru rhif 002/2013). Mae gan Golegau Addysg Bellach eu polisïau disgyblu a diswyddo eu hunain.

Dim ond yr achosion fwyaf difrifol ddylai fod yn cyrraedd y Cyngor. Os yw mater wedi cael ei archwilio’n lleol gan gorff llywodraethu, a’r aelod o staff wedi ei g/chael yn ddieuog, neu fod rhybudd wedi’i roi, nid oes angen i’r mater gael ei gyfeirio at y Cyngor.

Mae’r un egwyddorion yn wir mewn perthynas â materion o anghymhwysedd proffesiynol, a phrosesau medrusrwydd.

Yr unig resymau dros fynd â’r mater ymlaen at y Cyngor fyddai:

(i) petai’n fater o gamymddygiad/anghymhwystra proffesiynol difrifol

(ii) petai tystiolaeth o amryfusedd mewn perthynas â gweinyddiad y prosesau disgyblu/medrusrwydd

Petai pob achos o’r fath yn dod gerbron y Cyngor, mi fyddai llwyth gwaith y Cyngor yn gwbl anghynaladwy. Yn ogystal, mi fyddai unrhyw brosesau lleol yn wastraff amser, egni ac adnoddau llwyr.

Ac eto, ar hyn o bryd, mae dyletswydd gan y Cyngor i ymchwilio i unrhyw fater sy’n cael ei gyfeirio ato – ac mae hynny, gwyddwn i sicrwydd, yn cynnwys achosion sydd wedi cael eu setlo’n lleol mewn ffordd hollol dderbyniol.

Mae’n wir i ddweud bod dryswch ynghylch y materion hyn ymhlith rhieni, cyrff llywodraethu a hyd yn oed staff Awdurdodau Lleol. Mae’r Bil hwn yn cynnig cyfle i sefydlu a chyfathrebu egwyddorion clir. Byddai UCAC yn fodlon iawn darparu rhagor o dystiolaeth am y mater hwn yn benodol, petai hynny o ddefnydd i’r Pwyllgor.

26(3)(b)(ii):Croesawn y ddarpariaeth hon yn fawr iawn. Nid oes diben mynd i wrandawiad cyhoeddus costus pan fydd yr aelod staff wedi cytuno nad yw am barhau’n gofrestredig yn dilyn prosesau medrusrwydd/ disgyblu. Mae hwn yn ddarpariaeth a fydd yn osgoi straen diangen i staff y gweithlu addysg, ac yn ddefnydd doethach o adnoddau’r Cyngor.

Pwynt cyffredinol: sylwn nad oes unrhyw ddarpariaeth yn yr adran hon ynghylch gwrandawiadau preifat/in camera. Mae darpariaeth o’r fath yn greiddiol, yn enwedig pan fydd achosion sy’n ymwneud â staff sydd â phroblemau iechyd, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, y gallai’r straen o wrandawiad cyhoeddus effeithio’n negyddol ar eu hiechyd. Categori arall pan fydd gwrandawiad o’r fath yn anhepgor yw pan fyddai’r dystiolaeth a gyflwynir yn medru caniatáu i’r cyhoedd adnabod disgybl neu ddisgyblion penodol wrth gyflwyno manylion yr achos, er na enwir y disgybl/disgyblion. Ai mewn rheoliadau y tybir y bydd darpariaethau o’r fath?

Cymal 29: Gorchmynion cofrestru amodol
29(4)(b): Nid ydym wedi ein darbwyllo bod cyfiawnhad i orchymyn “heb derfyn amser”. Er gwaethaf profiad eang yn y maes, nid ydym wedi llwyddo i feddwl am enghraifft o sefyllfa pan fyddai hynny’n briodol. A fyddai’r Pwyllgor, neu’r Gweinidog, yn gallu darparu enghraifft?

Cymal 30: Gorchmynion atal dros dro
30(5)(b): Fel uchod, nid ydym wedi ein darbwyllo bod cyfiawnhad i orchymyn “heb derfyn amser”.

Cymal 32: Apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu
32(1): Er ein bod yn cydnabod bod y cymal hwn yn adlewyrchu’r trefniadau cyfredol, teimlwn y byddai’n briodol bod hawl i wneud apêl yn erbyn penderfyniad ynghylch gorchymyn disgyblu i banel apêl o fewn y Cyngor yn gyntaf, cyn gorfod mynd i’r Uchel Lys.

Cymalau 36, 37 a 38:
36(2) a 37(2): Mae’r cymalau hyn yn gysylltiedig â’r pwyntiau a wnaethpwyd uchod mewn perthynas â Chymal 26 – Swyddogaethau Disgyblu, a’r angen i ffurfioli rôl prosesau lleol.

Mae hon yn broblem arbennig mewn perthynas ag asiantaethau. Ar hyn o bryd, nid oes rheidrwydd arnyn nhw, yn wahanol i ysgolion a cholegau addysg bellach, i weithredu prosesau disgyblu na medrusrwydd. Golyga hynny, fod materion yn cael eu cyfeirio’n uniongyrchol at y Cyngor – yn cynnwys materion a fyddai fel arfer wedi cael eu hymchwilio a’u setlo’n lleol, ac felly’n cynyddu llwyth gwaith y Cyngor. Mae sgil-effaith negyddol i hyn ar yr addysgwyr yn ogystal, oherwydd y gall yr asiantaeth peidio â defnyddio’u gwasanaethau’n ddisymwth, a’u gadael heb waith a heb gyflog, am gyfnod estynedig, heb gyfle i glirio’u henwau - nes bod prosesau’r Cyngor yn cael eu gweithredu, sy’n gallu bod yn gyfnod hirfaith.

Atodlen 1

Cymal 3: Aelodaeth
3(2): Gwrthwynebwn y cymal sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benodi aelodau’r Cyngor. Mae hyn yn newid sylweddol er gwaeth yn y Bil. Ar hyn o bryd caiff 12 aelod eu hethol o blith y gweithlu, gan y gweithlu; caiff 9 eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (nid Gweinidogion Cymru) ar sail enwebiadau gan gyrff perthnasol; a chaiff 4 eu penodi’n uniongyrchol gan y Cynulliad Cenedlaethol (nid Gweinidogion Cymru).

Corff annibynnol yw’r Cyngor sy’n gweithio yn enw, ac ar ran y gweithlu addysg – ac wedi’i ariannu gan ffioedd a delir gan y gweithlu. Mae’r syniad mai Gweinidogion Cymru fyddai’n penodi’r aelodau’n gwbl afresymol ac yn annoeth. Mae’n hollbwysig o ran hygrededd y Cyngor i osgoi unrhyw ganfyddiad o ddylanwad gwleidyddol ar y penodiadau, ac mae angen i’r gweithlu deimlo perchenogaeth dros y Cyngor.

3(3)(b): Nid ydym yn cytuno y dylai bod modd penodi personau sydd wedi bod yn gofrestredig “yn ddiweddar”; ar egwyddor, mi ddylai aelodau’r Cyngor fod yn bersonau cofrestredig, er mwyn cael dealltwriaeth fyw a chyfredol o fyd addysg. Erbyn diwedd ei g/chyfnod ar y Cyngor, gallai rhywun oedd wedi’i gofrestru’n “ddiweddar” fod wedi gadael y gweithlu addysg ers dros 5 mlynedd; nid yw hynny’n dderbyniol.

Rhan 3: Personau ag Anawsterau Dysgu

Egwyddorion Cyffredinol

Cytunwn ag egwyddorion cyffredinol yr adran hon o’r Bil o ran (i) Ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig (ii) Addysg a hyfforddiant ôl-16.

Sylwadau manwl

O ran Addysg a hyfforddiant ôl-16, byddem am fod yn sicr bod trosglwyddo’r cyfrifoldebau i Awdurdodau Lleol (ALl) yn mynd law yn llaw â throsglwyddo adnoddau digonol i weithredu’r cyfrifoldeb yn effeithiol.

Gwyddom fod y lefel o arbenigedd yn bodoli o fewn yr ALlau i ymgymryd â’r gwaith, ond tybiwn na fydd digon o bobl â’r arbenigedd hwnnw i ymdopi â’r gofynion newydd. Byddem yn rhagweld y byddai angen swm sy’n gyfatebol i’r hyn a dderbyniodd Gyrfa Cymru am yr un gwaith yn angenrheidiol. Mae cwestiynau’n codi ynghylch sut i ddyrannu’r swm rhwng y 22 ALl, neu p’un ai fyddai rôl i’r consortia rhanbarthol.

Rhan 4: Darpariaeth Amrywiol

Egwyddorion Cyffredinol

Cytunwn ag egwyddorion cyffredinol yr adran hon o’r Bil o ran (i) Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol (ii) Arolygaeth ei mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Sylwadau manwl

O ran dyddiadau tymhorau a gwyliau, cytunwn â’r rhesymeg a gynigir yn y Memorandwm Esboniadol ynghylch costau i deuluoedd. Hoffem ychwanegu fod rhesymau addysgol dilys dros gysoni yn ogystal. Yn sgil Llwybrau Dysgu 14-19 a’r Mesur Dysgu a Sgiliau (2009), mae cydweithio rhwng sefydliadau addysg yn gynyddol gyffredin - yn ysgolion, ac yn golegau addysg bellach. Mae’r cydweithio hyn yn aml yn digwydd yn draws-ffiniol, yn enwedig yn y sector cyfrwng Cymraeg, ble mae’r partneriaid addas agosaf yn aml mewn Awdurdod Lleol arall. Mae’r anghysondeb yn nyddiadau tymhorau’n gwneud y cydweithio hyn yn sylweddol anoddach, a gwyddom am enghraifft o gydweithio ble collwyd tair wythnos o wersi ar y cyd, am nad oedd dyddiadau tymhorau Awdurdodau Lleol drws-nesaf yn cydredeg.

Pwysleisiwn y bydd angen rheswm addysgol digonol os bydd Gweinidog am wneud eithriad o ran cysondeb y dyddiadau; ond nodwn y bydd yn rhaid ymgymryd ag ymgynghoriad mewn achos o’r fath, a derbyniwn fod hynny’n cynnig amddiffynfa.

UCAC_A4_Newsletter_Boilerplate.jpg